Mae Denmarc wedi cadarnhau eu bod am roi caniatâd i Rwsia a’r Almaen adeiladu pibell nwy dwy ei thiriogaeth.
Mae’n fuddugoliaeth i lywodraethau Rwsia a’r Almaen sydd wedi gweithio ers hydoedd i geisio sicrhau fod y prosiect yn cael sêl bendith Denmarc
Ond daw fel ergyd i’r Unol Daliaethau a sawl gwlad Ewropeaidd a oedd wedi gwrthwynebu’r prosiect ar sail ei fod yn gwneud Ewrop yn or-ddibynol ar Rwsia fel cyflenwr nwy.
Bydd y Nord Stream 2 Pipeline yn dechrau yn Rwsia ac yn pasio drwy’r Ffindir, Sweden a Denmarc cyn cyrraedd yr Almaen.
Roedd pob gwlad oni bai am Denmarc eisoes wedi rhoi sêl bendith i’r prosiect.
Gall y bibell drosglwyddo 55 biliwn metr giwbig o nwy bob blwyddyn.