Mae cwch dyngarol sy’n ceisio achub ffoaduriaid wedi cyrraedd Sisili ar ôl bron i bythefnos ar goll yn y môr.
Cyrhaeddodd y cwch borthladd Pozzallo ddydd Mercher (Hydref 30), 12 diwrnod wedi iddo achub 104 o bobol oedd mewn dingi yn y Môr Canoldir oddi ar arfordir Libya.
Roedd y ffoaduriaid yn hanu o wyth gwlad wahanol, yn cynnwys Bangladesh, Swdan a Nigeria, ac yn cynnwys 41 o bobol ifanc a dwy ddynes feichiog.
Mae Ffrainc a’r Almaen wedi cytuno i’w derbyn.