Roedd y Pab Ffransulis i weld dan deimlad mewn seremoni i nodi dychwelyd cerflun o’r Forwyn Fair i’r Ariannin – ei famwlad.
Cafodd y cerflun ei gymryd i wledydd Prydain wedi diwedd Rhyfel y Malvinas yn 1982-83.
Roedd lluoedd arfog yr Ariannin wedi mynd á’r cerflun gyda nhw i’r ynysoedd yn 1982.
Ond ar ôl dau fis o ryfel a buddugoliaeth i Brydain, fe gafodd y cerflun ei gludo i eglwys filwrol yn Lloegr, a’i ddefnyddio fel cerflun i gofio meirw’r rhyfel.
Yn dilyn seremoni, cusanodd y Pab Ffransis y cerflun a sychu dagrau o’i lygaid.