Mae 12 o ffoaduriaid wedi cael eu canfod yn fyw yng nghefn lori yng ngwlad Belg.

Yn ôl cyfryngau lleol, roedd y dynion wedi llwyddo i gropian i mewn i’r lori ger Antwerp ddydd Mawrth (Hydref 29), gan achosi i’r gyrrwr gysylltu â’r heddlu.

Dywed llefarydd ar ran heddlu gwlad Belg fod swyddogion wedi mynd i archwilio’r lori – a dod o hyd i ddeuddeg dyn. 

Cafodd y dwsin eu cymryd i swyddfa heddlu yn Antwerp, ac maen nhw bellach yn cael eu ‘prosesu’ gan swyddogion mewnfudo.

Daw hyn ddim ond wythnos ar ôl i 39 o gyrff gael eu canfod mewn lori yn ne Lloegr.