Mae dau ddyn o wledydd Prydain wedi’u hanafu mewn ymosodiad gan siarc tra’n snorclo oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Awstralia.

Mae un o’r dynion wedi colli ei droednyn yr ymosodiad.

Mae troed dde Alistair Raddon, 28, wedi ei brathu ymaith, tra bod Danny Maggs, 22 wedi diodde’ rhwygiadau difrifol i groth ei goes dde.