Gallai Bryste fod y ddinas gyntaf yng ngwledydd Prydain i gyflwyno gwaharddiad ar gerbydau diesel er mwyn rhoi hwb i ansawdd aer.

Bydd y cerbydau’n cael eu gwahardd rhag mynd i mewn i ardal ganolog o’r ddinas rhwng 7yb a 3yp bob dydd o dan gynnig  gan Gyngor Dinas Bryste.

Mae parth gwefru ehangach ar gyfer cerbydau masnachol fel bysiau, tacsis, faniau a lorïau nad ydynt yn cwrdd â safonau allyriadau penodol yn rhan o’r mesurau y gellid eu gweithredu erbyn mis Mawrth 2021.

Mae yna gynllun hefyd i lansio cynllun sgrapio ceir i helpu perchnogion ceir disel i brynu cerbyd arall.

Mae pryderon ynghylch allyriadau nitrogen deuocsid wedi tyfu ers y canfuwyd bod Volkswagen ym mis Medi 2015 wedi twyllo profion llygredd aer ar gyfer 11 miliwn o gerbydau disel ledled y byd, gan gynnwys 1.2 miliwn yng ngwledydd Prydain.

Dywedodd Cyngor Dinas Bryste yn 2017 ei fod yn un o 24 awdurdod lleol a orchmynnwyd gan y Llywodraeth i gyflwyno cynllun ar gyfer sut y bydd yn cydymffurfio â therfynau cyfreithiol ar nitrogen deuocsid erbyn Mawrth 2021.

Mae’r Llywodraeth wedi annog cynghorau i ddihysbyddu opsiynau eraill cyn dewis gosod parthau gwefru. 

Gofynnir i gabinet y cyngor gymeradwyo cynnig y Parth Aer Glân mewn cyfarfod ar Dachwedd 5.