Mae protestiwr ifanc a gafodd ei saethu yn ei frest gan heddwas yn Hong Kong, yn wynebu cael ei gyhuddo.

Fe gafodd Tsang Chi-Kin, 18, ei anafu yn ystod diwrnod dramatig o brotestio ar strydoedd y ddinas ddydd Mawrth (Hydref 1), wrth i arweinwyr y gyfundrefn Gomiwnyddol yn Beijing ddathlu 70 mlynedd o fod mewn grym.

Mae’n debyg bod y llanc, a oedd yn un o’r miloedd o orymdeithwyr ar y dydd, wedi taro’r heddwas a’i saethodd gyda darn o fetel.

Yn ôl y llywodraeth, mae Tsang Chi-Kin ar hyn o bryd mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl derbyn triniaeth.

Dywed yr heddlu ei fod yn wynebu cael ei gyhuddo o ddau achos o ymosod ar yr heddlu. Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd os bydd yn mynd o flaen ei well.