Fydd gweithredu’r rhwydwaith 5G yng ngwledydd Prydain ddim yn datrys y diffyg signal mewn ardaloedd gwledig, yn ôl ymchwil newydd.
Mae uSwitch.com yn dweud bod ei arolwg barn diweddaraf yn datgelu bod llawer o ddefnyddwyr ffonau clyfar yn dal i gael problemau gyda’r rhwydwaith 4G – a does dim bwriad ganddyn nhw i uwchraddio i 5G gan ei fod, ar hyn o bryd, ddim ond ar gael mewn ardaloedd trefol a dinesig.
Yn ôl yr ymchwil, mae traean o ddefnyddwyr ffonau clyfar yng ngwledydd Prydain yn cael trafferth cysylltu â 4G o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae’n ychwanegu mai dim ond 28% o dir gwledydd Prydain – trefi a dinasoedd gan mwyaf – fydd yn gallu derbyn y rhwydwaith newydd erbyn diwedd 2019.
O ganlyniad i hyn, mae uSwitch yn dweud mai dim ond un ym mhob saith o bobol (14%) sydd â chynlluniau i uwchraddio i 5G erbyn diwedd y flwyddyn.
Cefn gwlad o dan anfantais
“All y diwydiant ddim lansio 5G fel datrysiad dros dro er mwyn cuddio methiannau 4G,” meddai Ernest Doku, arbenigwr ffonau yn uSwitch.com.
“Mae angen i ddarparwyr gydweithio â chymunedau i wella cysylltedd, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ac i atal miliynau o bobol rhag cael eu hamddifadu ar dechnoleg sy’n ddwy genhedlaeth yn rhy hen.
“Oni bai bod rhwydweithiau yn gwella eu signal mewn ardaloedd gwledig, mae yna beryg y gallai 5G wneud yr un camgymeriadau â 4G, a gwasanaethu’r dinasoedd ar draul ardaloedd mwy gwledig y wlad.”
Ddydd Llun (Medi 7) fe gyhoeddodd y Canghellor, Sajid Javid, y bydd £5m yn cael ei wario gan Lywodraeth Prydain er mwyn cefnogi band-eang, 5G a rhwydweithiau cyflym eraill mewn ardaloedd anghysbell.