Fe fydd cynlluniau i sefydlu Cyngor Cyfraith Cymru yn cael eu cyhoeddi heddiw, gyda’r bwriad o gynyddu addysg ac ymwybyddiaeth o’r gyfraith ar wahân i Loegr.

Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a gafodd ei benodi gan Lywodraeth Cymru yn 2017 i adolygu’r system gyfiawnder ac i lunio gweledigaeth hirdymor, sy’n cyflwyno’r cynnig.

Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd sy’n cadeirio’r Comisiwn, sy’n cyhoeddi adroddiad ar ei ganfyddiadau ymhen tair wythnos ar Hydref 24.

Daw’r argymhelliad ar gyfer sefydlu’r Cyngor yn dilyn awgrym yr Arglwydd Lloyd-Jones i sefydlu corff er mwyn hyrwyddo’r astudiaeth o gyfraith Cymru.

Dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones yn Abertawe ddwy flynedd yn ôl fod angen Cyngor i gydlynu’r gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau academaidd a rhai eraill yn barod ar gyfer cyflwyno cyfraith newydd.

Mae’n dweud bod angen Cyngor o’r fath i fod ar gael i’r cyhoedd.

Tynnu ar brofiadau’r Alban

“Disgwylir i’n hadroddiad gael ei gyhoeddi ar Hydref 24,” meddai’r Arglwydd Thomas.

“Credem y gallai fod yn ddefnyddiol pe bai ein cynnig ar Gyngor Cyfraith Cymru yn cael ei gyhoeddi cyn Cynhadledd Cymru’r Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru ar 11 Hydref, gan fod angen sefydlu Cyngor o’r fath ac am nad yw’r cynnig yn dibynnu ar y materion eraill a ystyriwyd gennym.

“Mae’r angen i’r proffesiynau cyfreithiol ac ysgolion y gyfraith gydweithio wedi’i gydnabod  ers amser hir yn yr Alban.

“Yno mae ganddynt y Cyd-bwyllgor Sefydlog ar gyfer Addysg Gyfreithiol i hyrwyddo buddiannau addysg gyfreithiol yn y byd academaidd ac yn y proffesiynau.

“Mae’n dwyn pobl â rolau allweddol ynghyd sy’n ymwneud ag addysg a hyfforddiant cyfreithiol yn yr Alban, y farnwriaeth, y Bar, Cymdeithas y Cyfreithwyr, ysgolion y gyfraith ac aelodau lleyg, ac mae’n hynod effeithiol.”