Mae disgwyl i Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De, lansio strategaeth newydd yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Hydref 3) i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched.

Fe fydd y lansiad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, lle bydd partneriaid o bob cwr o’r de yn ymgynnull.

Bu’r maes yn un o brif flaenoriaethau’r comisiynydd ers iddo gael ei ethol.

Ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad fydd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru.

Y strategaeth

Y strategaeth yw ffrwyth gwaith sydd wedi bod ar y gweill ers 2012 i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched.

Mae’n tynnu ar dystiolaeth nifer o sefydliadau yn y de, dioddefwyr, goroeswyr a phartneriaid eraill, ac yn canolbwyntio ar bedwar prif faes, sef cydweithio pellach, atal ac ymyrryd, diogelu a herio’r rhai sy’n dreisgar.

“O fewn de Cymru, mae yna ddealltwriaeth glir rhwng yr heddlu a’n partneriaid na fydd un sefydliad na gweithred unigol yn dod â’r math o drais a chamdrin sydd wedi bod yn bla ar ein cymdeithas ers degawdau a chenedlaethau i ben,” meddai Alun Michael.

“Fe wyddom, heb unrhyw amheuaeth, mai dim ond trwy gydweithio trwy ddilyn dulliau Iechyd Cyhoeddus y gallwn ni newid y dyfodol.”