Mae’r awdurdodau wedi dod o hyd i bedwar corff ar ôl i bont ddymchwel yn Taiwan.

Maen nhw hefyd yn dal i chwilio am ddau berson arall sydd wedi bod ar goll ers y digwyddiad ddoe (dydd Mawrth, Hydref 1).

Fe ddymchwelodd y bont 140 metr o hyd i’r môr ar arfordir dwyreiniol Taiwan – tua 40 milltir i’r de-ddwyrain o brifddinas y wlad, Taipei.

Yn ôl yr Asiantaeth Tân Genedlaethol, mae’r cyrff sydd wedi cael eu darganfod yn cynnwys dau o Indonesia ac un o’r Philipinau. Dyw’r pedwerydd corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Mae lle i gredu bod y rheiny a fu farw i gyd yn weithwyr ar gychod pysgota.

Cafodd 10 person eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad hefyd, gan gynnwys gyrrwr y tancer olew a syrthiodd oddi ar y bont.