Mae pennaeth y cwmni archfarchnad Tesco wedi penderfynu camu o’r neilltu ar ôl pum mlynedd yn y swydd.
Yn ôl Dave Lewis, mae ei benderfyniad i adael yn un “personol”. Mae hefyd yn honni bod yr ymdrech i achub y cwmni bellach “wedi ei chwblhau”.
Bydd Dave Lewis, a gafodd ei benodi’n bennaeth ar Tesco ym mis Medi 2014, yn cael ei olynu gan Ken Murphy o gwmni Boots.
Mae disgwyl i Dave Lewis adael ei swydd yn ystod haf 2020.