Mae disgwyl i Boris Johnson amlinellu ei gynllun Brexit “terfynol” yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr heddiw (dydd Mercher, Hydref 2).

Bydd y Prif Weinidog yn pwysleisio ym Manceinion y prynhawn yma fod Brexit yn mynd i ddigwydd ar Hydref 31, ac na fydd yn gofyn am estyniad.

Mae swyddogion gwledydd Prydain hefyd wedi mynnu na fydd yna drafodaethau pellach os yw’r Undeb Ewropeaidd yn gwrthod y testunau cyfreithiol a fydd yn cael eu cyflwyno iddyn nhw yr wythnos hon.

“Mae pleidleiswyr eisiau i ni ganolbwyntio ar eu blaenoriaethau eraill,” meddai Boris Johnson yn ei anerchiad. “Mae pobol, gadawyr, arhoswyr a’r byd i gyd, eisiau i ni symud ymlaen.

“Dyna pam mae angen i ni adael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31. Dewch i ni gwblhau Brexit – fe allwn ni wneud hynny; mae angen i ni wneud hynny; ac fe fyddwn ni’n gwneud hynny.”

Fydd Boris Johnson ddim yn bresennol mewn sesiwn o Gwestiynau’r Prif Weinidog heddiw oherwydd ei fod ym Manceinion.

Mae’r Senedd yn dal i weithredu ar hyn o bryd, er gwaethaf ymgais y Ceidwadwyr i’w gohirio am rai diwrnodau er mwyn i’w cynhadledd fynd yn ei blaen.