Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael eu hannog i daclo digartrefedd wedi i ffigyrau newydd ddatgelu fod dau berson digartref wedi marw bob dydd yng Nghymru a Lloegr llynedd.
Cododd marwolaethau pobl ddigartref 22% i 726 yn 2018 sef y ffigwr uchaf ers i gofnodion ddechrau yn 2013.
Cynyddu wnaeth marwolaethau cysylltiedig â chyffuriau ymysg pobl ddigartref yn 2018 hefyd, a hynny o 55%.
Roedd rhan helaeth o’r marwolaethau yn ddynion – oddeutu 641 – gydag oed cyfartaledd o 45 i ddynion a 43 i ferched.
Dywed Gweinidog Cysgodol Tai John Healey: “Mae hyn yn gywilyddus mewn gwlad mor lewyrchus a Phrydain heddiw.”
Tra fod y Gweinidog Tai Luke Hall yn dweud: “Does dim modd cuddio oddi wrth yr ystadegau rhain. Mae nhw’n dorcalonus.”