Mae wedi dod i’r amlwg bod Plaid Cymru wedi chwarae rhan wrth rwystro Neil McEvoy yn ei ymgais i danio trafodaeth am Carl Sargeant yn y Senedd.

Mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am drefnu busnes y Cynulliad, yn ystyried cynigion a allai cael eu trafod yn y siambr, ac ar y pwyllgor yma mae yna gynrychiolydd o bedwar prif blaid y Cynulliad.

Roedd y cyn-aelod Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi cyflwyno cynnig i’r pwyllgor a fyddai wedi tanio trafodaeth tros ryddhau dogfennau am Carl Sargeant, y diweddar Aelod Cynulliad.

Ond mae’r pwyllgor wedi gwrthod a chymeradwyo’r cynnig, a bellach mae cofnodion eu cyfarfod diwethaf wedi cael eu cyhoeddi gan daflu goleuni ar y sefyllfa.

Y cofnodion

Mae’r cofnodion yn nodi bod Darren Millar, cynrychiolydd y Ceidwadwyr; a Caroline Jones, cynrychiolydd Plaid Brexit, wedi cefnogi’r cynnig.

Ond mae hefyd yn dangos bod Rhun ap Iorwerth, cynrychiolydd Plaid Cymru; a Rebecca Evans, cynrychiolydd Llafur; wedi ei wrthwynebu.

Gan fod dylanwad aelodau’r pwyllgor yn dibynnu ar nifer seddi eu pleidiau, llwyddodd Plaid Cymru a Llafur a gafodd y cynnig ddim ei amserlennu.

Roedd Rhun ap Iorwerth yn credu mai’r Pwyllgor Cyfrifo Cyhoeddus fyddai yn y safle gorau i drin â’r cynnig.

Yn ôl y cofnodion “cafodd safbwyntiau eu rhannu – yn blwmp ac yn blaen – ynghylch rhesymau posib grwpiau gwahanol tros gefnogi a gwrthwynebu” y cynnig.

Mae llefarydd a ran Plaid Cymru yn dadlau nad yw’r cynnig wedi cael ei rwystro’n llwyr eto, oherwydd y gallai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei gymeradwyo yn y dyfodol.

Ymchwiliad

Mi laddodd yr Aelod Cynulliad ei hun wedi iddo gael ei ddiswyddo o’i rôl ar y cabinet, ac mae rhai’n honni i’r newyddion am ei ddiswyddiad gael ei rhyddhau cyn iddo glywed ei hun.

Cafodd ymchwiliad i’r honiad yma ei gynnal y llynedd, dan arweiniad Prif Swyddog Diogelwch Llywodraeth Cymru, a daeth i’r casgliad bod y wybodaeth heb gael ei rhannu.

Ond mae sawl Aelod Cynulliad, gan gynnwys y cyn-aelod Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi gwrthod y casgliad yma, ac am i wybodaeth lawn yr ymchwiliad gael ei rhyddhau.