Mae daeargryn grymus wedi lladd un person ac wedi difrodi ysbyty ar un o ynysoedd mwya’ poblog Indonesia.

Fe gwympodd rhannau o adeilad prifysgol Islamaidd yn Ambon, prifddinas rhanbarth Maluku. Mae adroddiadau lleol yn dweud fod athrawes wedi marw pan syrthiodd wal am ei phen.

Mae ysbyty yn y ddinas hefyd wedi’i ddifrodi, ac mae cleifion wedi cacel eu symud i bebyll yn y buarth.

Y gred ydi fod canolbwynt y daeargryn, a oedd yn mesur 6.5 ar y raddfa, tua 23 milltir i’r gogledd-ddwyrain o Ambon, a tua 18 milltir dan-ddaear.