Mae heddwas yn Coventry a gafodd ei daro gan gar a fethodd â stopio wedi torri ei benglog ac wedi diodde’ gwaedlif ar yr ymennydd, meddai heddlu’r West Midlands.

Mewn datganiad yn cadarnhau eu bod nhw’n dal i chwilio am yrrwr car Mini yn dilyn y gwrthdrawiad ddoe (dydd Mercher, Medi 25) maen nhw hefyd yn dweud bod disgwyl i’r heddwas 48 oed i gael ei gadw yn yr ysbyty “am beth amser”.

“Mae’r swyddog yn uchel ei barch yn y gymuned, ac mae wedi ennill cydnabyddiaeth am ei waith,” meddai llefarydd ar ran y llu.

“Roedd yn gwneud ei waith, yn ceisio cadw Coventry yn saff, pan gafodd ei daro i lawr yn fwriadol gan rywun sydd wedi gyrru i ffwrdd wedyn.”