Bu farw cyn-arlywydd Ffrainc, Jacques Chirac, yn 86 oed.

Fe ddaeth datganiad gan ei deulu yn dweud i’r gwleidydd ddod i ben ei daith yng nghwmni ei deulu, heddiw (dydd Iau, Medi 26).

Mae’r newyddion am ei farwolaeth wedi’i gyhoeddi hefyd yn y Cynulliad Cenedlaethol yn Ffrainc, lle cynhaliwyd munud o dawelwch er parch.

Yn ystod gyrfa wleidyddol hir, fe fu Jacques Chirac yn brif weinidog Ffrainc ar ddau achlysur, cyn treulio dros ugain mlynedd rhwng 1995 a 2007 yn arlywydd ei wlad.