Mae sawl un o Aelodau’r Cynulliad wedi beirniadu’r iaith a ddefnyddiodd Boris Johnson wrth annerch Aelodau Seneddol brynhawn ddoe (dydd Mercher, Medi 25).

Yn ystod y sesiwn mi alwodd bil oedi Brexit – a gafodd ei basio gan aelodau – yn “bil ildio”, a thynnodd sylw at Aelod Seneddol a gafodd ei llofruddio wedi refferendwm 2016.

Mae cynrychiolwyr Senedd San Steffan eisoes wedi ceryddu Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am ddefnyddio iaith, sydd yn eu barn hwythau, yn miniogi rhethreg Brexit.

A bellach mae Aelodau Cynulliad wedi rhannu’u pryderon am iaith Boris Johnson yn y sesiwn a gafodd ei chynnal neithiwr.

Sôn am “ymddiswyddo”

Mae Carwyn Jones wedi galw ar Geidwadwyr i leisio’i gwrthwynebiad, ac wedi pwysleisio nad mater pleidiol yw ei wrthwynebiad yntau.

“Mae’n bryd i bobol ddechau’r Blaid Geidwadol yn y senedd – a thu hwnt – sefyll ar eu traed,” meddai cyn-Brif Weinidog Cymru.

“Dw i wedi anghytuno â sawl un ohonyn nhw dros y blynyddoedd, ond dydw i erioed wedi cwestiynu sut bobol ydyn nhw.

“Pe bai Prif Weinidog Llafur wedi ymddwyn fel hynna heno mi fuaswn wedi galw arno i ymddiswyddo.”

“Iaith anghymedrol”

Mae David Melding, Aelod Cynulliad Ceidwadol, wedi beirniadu arweinydd ei blaid ei hun gan holi a fyddai cyn-Brif Weinidogion ei blaid yntau wedi ymddwyn yn yr un modd.

“Roedd y Prif Weinidog – yn ogystal â’r Twrnai Cyffredinol – yn grac ac yn ystyfnig,” meddai David Melding.

“Cafodd iaith anghymedrol – gwrth-seneddol bron a bod – ei lefaru mewn modd chwerw a dirmygus. Byddai [Winston Churchill], [Harold] MacMillan a [Margaret] Thatcher wedi ymddwyn yn y fath modd?”

“Rhag eich cywilydd Boris Johnson,” meddai Delyth Jewell o Blaid Cymru. “Yr wythnos yma rydym wedi darganfod sut ddyn yw e go iawn. Mae’n codi cywilydd.”