Mae Tsieina bellach yn cyfrannu’n fawr at ledaenu ffug-wybodaeth ledled y byd, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Yn ôl yr Oxford Internet Institute, mae mwyfwy o wledydd yn ymyrryd â chyfryngau cymdeithasol er mwyn dylanwadu ar bobol, ac mae’r fath ymyrraeth wedi dyblu ers 2017.
Mae Tsieina ymhlith y gwledydd rheiny, ac er mai dylanwadu ar boblogaeth ei hun oedd ei hamcan gwreiddiol, bellach mae’n gwthio i ddylanwadu ar bobol gwledydd eraill.
“Yn hyn o beth, mae Tsieina wedi dod yn brif bŵer ledled y byd,” meddai’r Athro, Philip Howard, Cyfarwyddwr yr Oxford Internet Institute.
“Mae wedi dangos ei nerth, mae’n dylanwadu trwy sawl ddull gwahanol, ac mae’n targedu pleidleiswyr yn y gorllewin.”