Mae ymchwiliadau ar y gweill i sigaréts trydanol yn dilyn cyfres o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau.
Hyd yma mae naw wedi marw a dros 500 o bobol wedi eu taro’n sâl ar ôl eu hysmygu, ond mae’r hyn sy’n achosi’r broblem yn parhau’n ddirgelwch.
Mae modd ysmygu olew mariwana trwy’r sigaréts, ac mae eu defnydd at y diben hwnnw yn cynyddu. Ond mae eu poblogrwydd wedi cwympo yn ddiweddar yn sgil y marwolaethau.
O’r rheiny sydd wedi cael eu taro yn wael roedd sawl un wedi ymysgu olew mariwana, ond roedd rhai hefyd wedi ysmygu nicotin.
Mae swyddogion iechyd yn dal i drio darganfod pa sylweddau sydd wedi achosi’r anhwylder a’r marwolaethau.