Mae disgwyl i’r gwrthbleidiau daflu dŵr oer tros gynlluniau cynhadledd y Ceidwadwyr yn ddiweddarach.
 hithau’n dymor cynadleddau, mae’r Torïaid yn gobeithio cynnal eu cynhadledd hwythau ym Manceinion rhwng Medi 29 a Hydref 2.
A gobaith y blaid yw pasio cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin a fyddai’n tanio toriad byr – toriad a fyddai’n eu galluogi i gynnal y gynhadledd heb ffwdan.
Ond, gan nad oes gan y Llywodraeth fwyaf o seddi, ac o ystyried y tensiynau sy’n ffrwtian yn San Steffan, mae disgwyl i’r cynnig yma fethu ar dydd Iau (Medi 26).
Pe bai’r cynnig yn methu a bod y gynhadledd yn mynd rhagddi, byddai gwaith y senedd yn parhau ac yn gwrthdaro â’r digwyddiad gan roi’r Ceidwadwyr mewn sefyllfa letchwith.
Hwb i’r economi
Mae ffynhonnell o’r Blaid Geidwadol yn mynnu dylai’r gynhadledd fynd rhagddi ta beth pe bai’r cynnig yn colli, ond mae’n cydnabod y byddai’n rhaid cynnal digwyddiad llai.
Mae disgwyl i’r gynhadledd rhoi hwb £30m i Fanceinion, ac mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees Mogg, wedi dweud ei fod yn “bwysig i economi” y ddinas.