Mae pump o bobol wedi cael eu lladd, a 21 arall wedi eu hanafu yn y Bahamas wrth i gorwynt Dorian achosi dinistr anferthol.

“Rydym yng nghanol trasiedi hanesyddol,” meddai y Prif Weinidog Hubbert Minnis. “Mae’r dinistr yn ddigynsail ac yn helaeth.”

Mae cannoedd o filoedd o bobol o Fflorida, Georgia a De Carolina wedi cael gorchymun i ffoi o’u cartrefi, cyn i’r storm gyrraedd arfordir dwyrain America.

Hyd yn oed os y bydd calon y storm yn aros oddi ar yr arfordir, fe allai achosi gorlifo difrifol a pheryglu bywydau.