Mae dyn, ynghyd â bachgen yn ei arddegau, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychol yn Swydd Warwick.

Fe gafodd y pâr, 62 ac 16 oed, eu harestio mewn dau gyfeiriad gwaahanol yn Rugby, gan uned gwrth-derfysgaeth Heddlu’r West Midlands.

Mae’r ddau’n cael eu holi mewn swyddfa heddlu ar amheuaeth o “gomisiynu, paratoi a chario allan gweithredoedd terfysgol”.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu yn cadarnhau fod yr arestiadau wedi’u cynllunio a’u harwain gan gudd-wybodaeth.