Mae rhagor nag wyth o bob deg plismon yng ngwledydd Prydain yn dweud y bydden nhw’n teimlo’n saffach petaen nhw’n cael cario gwn taser neu arf tebyg.

Fe ddaw’r ystadegyn wedi i Ffederasiwn yr Heddlu gynnal arolwg ar ran gorsaf radio LBC yn Llundain.

O blith y rheiny gafodd eu holi, mae 81% yn dweud y bydden nhw’n teimlo’n saffach ar ddyletswydd petai ganddyn nhw wn i yrru sioc drydanol trwy ddrwgweithredwyr neu bobol y maen nhw’n gorfod eu herio a’u haretio

Roedd yr heddweision yn cael eu holi yn ystod y mis wedi i’r PC Andrew Harper, 28, gael ei ladd tra’n ymateb i adroddiad o ladrata yn Berkshire ar Awst 15. Yn gynharach yn y mis, fe gafodd PC Gareth Phillips, 42, ei anafu’n ddifrifol wedi iddo gael ei daro gan yrrwr car wedi’i ddwyn yn Birmingham.

At hynny, fe gafodd PC Stuart Outten, 28, ei anafu yn ei law a’i ben wedi iddo herio dyn a oedd yn cario machete yn Leyton, dwyrain Llundain.

Mae gorsaf radio LBC wedi lansio ymgyrch yn galw ar y Swyddfa Gartref i roi arian o’r neilltu ar gyfer rhoi gynnau TASAR i bob heddwas ledled gwledydd Prydain.