Mae Justine Greening, cyn-ysgrifennydd addysg y Ceidwadwyr ac Aelod Seneddol sydd o blaid ail refferendwm Brexit, yn dweud y bydd hi’n rhoi’r gorau iddi yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae’r Aelod tros Putney wedi dweud ar raglen Today ar Radio 4 heddiw (dydd Mawrth, Medi 3) fod y mater “wedi bod ar fy meddwl am sbel” ac nad penderfyniad dros nos ydi o.

“Mi fydda’ i’n sefyll lawr o fod yn ymgeisydd ar ran y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol nesaf,” meddai.

“Dw i eisiau canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth ar lawr gwlad, a dw i’n credu y galla’ i wneud hyn yn fwy effeithiol y tu allan i’r Senedd nag o’r tu mewn. Mae ein Senedd wedi’i pharlysu gan Brexit ers blynyddoedd.

“Mi fydda’ i’n parhau i gynrychioli fy nghymuned,” meddai wedyn. “Roedd fy nghymuned i yn un a bleidleisiodd yn drwm dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.”