Mae ymladdwyr tân yn cadarnhau fod “rhai pobol” wedi’u lladd yn ystod tân ar gwch yn cario dwsinau o bobol oddi ar arfordir de Califfornia.
Fe gafodd gwylwyr y glannau a’r gwasanaethau brys eu galw yn gynnar ddydd Llun (Medi 2) i ymateb i dân ar gwch ger Ynys Santa Cruz.
Daeth cadarnhaf fod pump o bobol wedi cael eu hachub, ac un ohonyn nhw gydag anafiadau
Mae 34 o bobol yn dal i fod ar goll, ac mae adroddiadau fod mwy na 30 o bobol “mewn gwewyr” ar fwrdd y cwch.