Mae unig faes awyr gweithredol Libya wedi gorfod cael ei gau, wedi iddo ddod dan ymosodiad bomiau gan wrthryfelwyr sy’n ymladd am reolaeth o’r brifddinas, Tripoli.

Mae pob awyren i mewn ac allan o faes awyr Mitiga wedi’u rhwystro am y tro..

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn Libya hefyd yn cadarnhau fod pedwar taflegryn wedi taro rhannau o’r safle sy’n agored i bobol gyffredin, gydag un ohonyn nhw’n taro awyren oedd yn cario pererinion yn ôl o Sawdi Arabia.

Mae’r weinyddiaeth iechyd yn Tripoli yn dweud fod pedwar o bobol wedi cael eu hanafu.

Mae mudiad yr LNA wedi gwadu’r honiad mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.