Mae cyn-ddisgyblion i athro o Wynedd a enillodd hanner miliwn o bunnau ar raglen gwis Who Wants To Be A Millionaie? wedi bod yn ei longyfarch ac yn hel atgofion amdano ar-lein.
Mae David (Davyth) Fear o Gaernarfon wedi treulio cyfnodau yn dysgu Daearyddiaeth yn ysgolion Eifionydd, Porthmadog; Ysgol Ardudwy, Harlech; yn ogystal ag yn Ysgol Bodedern, Môn.
A neithiwr (nos Sul, Medi 1) fe lwyddodd i gyrraedd o fewn un ateb i gael y miliwn ar Who Wants To Be A Millionare?. Roedd ganddo gyfle i ffonio ffrind i gael yr ateb i’r cwestiwn, ‘Pa un o’r pedwar seleb gafodd ei eni yr un flwyddyn â’r Frenhines Elizabeth II?’ ond, er iddo allu gweithio ei ffordd yn rhesymegol trwy’r 14 o gwestiynau blaenorol, fe benderfynodd beidio mentro ar y pymthegfed a mynd adref gyda £500,000.
“Da oedd o de, dyn gwybodus iawn. Mor falch drosto,” meddai un o’i gyn-ddisgyblion yn Ysgol Eifionydd ar Facebook.
Roedd un arall yn difaru, gan ddweud: “Dyna pam oeddan ni fod i wrando yn ei ddosbarth o de.”
Ac un arall eto yn cofio’r cyn-athro pen moel yn edrych yn wahanol iawn pan oedd yn gadael Porthmadog: “Mop o wallt cyrliog melyn oedd ganddo de.”
Jeremy Clarkson yn gwneud sylwadau di chwaeth
Er i gyflwynydd y rhaglen, Jeremy Clarkson, wneud ambell sylw am y ffaith mai Cymro Cymraeg yw David Fear (a oedd yn arddel yr enw Davyth o Gaernarfon ar y rhaglen), chafodd y cystadleuydd mo’i daflu. Er hynny, dan yr enw David Fear y mae ei gyfrf Facebook.
Fe aeth y cyflwynydd mor bell ag awgrymu y byddai treulio llai o amser ar ei Gymraeg wedi rhoi mwy o gyfle i Davyth Fear ddysgu am ffilmiau, a allai fod wedi bod o help iddo gydag un o’r cwestiynau.