Mae cefnogwyr tîm rygbi Cymru wedi bod yn mynegi eu dryswch ar ôl i eitem newyddion rhwydwaith y BBC awgrymu mai “emyn” ac nid yr anthem genedlaethol yw ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
“Mae Cymru’n paratoi eu Cwpan y Byd hyd at y nodyn olaf,” meddai Patrick Gearey ar ddechrau ei adroddiad.
“Maen nhw wedi cael gwersi canu i’w helpu nhw gyda’u hemyn tîm.”
Ond wrth i’r newyddiadurwr gyflwyno’i adroddiad, roedd clip o’r tîm yn canu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Beirniadaeth
Fe wnaeth nifer o bobol droi at wefan gymdeithasol Twitter i gwyno:
Team hymn pic.twitter.com/p0wtlB3KFu
— Siôn (@jonisioni) September 1, 2019
A dyma ymateb @jonisioni ar ôl gweld y clip:
Fi’n siwr bod y boi ar Newyddion BBC newydd alw Hen Wlad Fy Nhadau yn “team hymn”. How very strange.
— Siôn (@jonisioni) August 31, 2019
A dyma nifer o bobol eraill oedd wedi cael eu drysu.
@BBCNews Hen Wlad Fy Nhadau is the national anthem of Wales, not a “team hymn” so why it was labelled as such on the news this evening baffles me🤔
— Samuel Taylor (@Samuel_4502) August 31, 2019
Ymmm, nath @BBCSport rili just galw Hen Wlad Fy Nhadau yn ‘team hymn’…?!
— Rhian James (@rhianlynjames) August 31, 2019
Ble ti hyd yn oed yn dechre gyda hwna?! Ma fe’r “team hymn” gorau fi erioed wedi flipping clywed!
— Iona Hopkins (@ionahopkins) August 31, 2019
Eglurhad
Wrth ymateb i rai o’r sylwadau, eglurodd Patrick Gearey mai dyma’r unig glip oedd ar gael i’w ddefnyddio gyda’i adroddiad.
They’re learning a separate song as a team hymn. Not the national anthem. That was the only thing I had to illustrate it.
— Patrick Gearey (@paddygearey) August 31, 2019
Wrth ymateb ymhellach, fe ddatgelodd wedyn beth yw’r “emyn” mae’n sôn amdani yn ei adroddiad, sef ‘Calon Lân’, ond mae’n cyfaddef nad yw’n gyfarwydd iawn â hi.
Apparently it’s Calon Lan. I’ll admit I’m not familiar with it (despite a year living in Wales). I didn’t want to say it was to help them with the anthem because I reckon they’re all pretty decent at singing that!
— Patrick Gearey (@paddygearey) September 1, 2019