Mae trigolion Puerto Rico yn paratoi ar gyfer storm drofannol Dorian a allai gael ei huwchraddio i gorwynt erbyn cyrraedd arfordir yr Unol Daleithiau.
Mae disgwyl i’r storm daro rhannau gorllewinol a chanolbarth Puerto Rico, gan achosi tirlithriadau a llifogydd.
Fe wnaeth Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, gyhoeddi argyfwng neithiwr (nos Fawrth, Awst 28), gan orchymyn bod awdurdodau lleol yn derbyn cymorth ffederal.
Roedd disgwyl i’r storm gyrraedd cyflymdra o 50 milltir yr awr ar ei chryfaf erbyn neithiwr, ac fe allai achosi hyd at wyth modfedd o law mewn rhai ardaloedd.
Mae rhybuddion yn eu lle yn Puerto Rico, Vieques, Culebra ac Ynysoedd Gwyryf yr Unol Daleithiau. Fe allai effeithio ar Weriniaeth Dominica hefyd.
Mae’r storm eisoes wedi achos i drydan gael ei golli a choed i gwympo yn Barbados a St. Lucia, ac mae’n symud yn nes at Fflorida ar hyn o bryd. Mae pryderon ar hyn o bryd nad oes gan rannau o Puerto Rico ddigon o adnoddau i ymdopi â’r sefyllfa.