Mae dyfalu y gallai etholiad cyffredinol cynnar gael ei alw a’i gynnal, yn dilyn penderfyniad Sajid Javid, Canghellor San Steffan, i ohirio’i ddatganiad ariannol.
Roedd disgwyl i’w araith gyntaf gael ei thraddodi heddiw (dydd Mercher, Awst 28), lle byddai’n addo arian ar gyfer ysgolion, ysbytai a’r heddlu.
Ond cafodd yr araith ei chanslo ddoe, gyda’r gwrthbleidiau’n dyfalu bod “panig” o fewn Llywodraeth Prydain.
Bydd e’n rhoi datganiad ddydd Mercher nesaf (Medi 4), lle bydd e’n dweud y gall y llywodraeth “fforddio gwario mwy ar flaenoriaethau pobol” yn dilyn degawd o doriadau.
“Diolch i waith caled pobol Prydain dros y degawd diwethaf, gallwn fforddio gwario mwy ar flaenoriaethau pobol – heb dorri’r rheolau ynghylch yr hyn ddylai’r Llywodraeth ei wario – ac fe wnawn ni hynny mewn rhai meysydd allweddol fel ysgolion, ysbytai a’r heddlu,” meddai mewn erthygl yn y Daily Telegraph.
“Ond ar yr un pryd, mae’n hanfodol ein bod yn byw o fewn ein gallu fel gwlad.
“Yn wahanol i’r Blaid Lafur, dydyn ni ddim yn credu mewn taflu arian at broblem.
“Ac yn enwedig ar adeg pan fod’r economi fyd-eang yn arafu, mae’n bwysig nad ydyn ni’n gadael i’n cyllid cyhoeddus fynd allan o reolaeth.”
Beirniadu’r penderfyniad i ohirio
Mae John McDonnell, canghellor yr wrthblaid, wedi beirniadu’r penderfyniad i ohirio’r datganiad.
Mae’n dweud bod yna “banig” yn y llywodraeth, a bod Sajid Javid yn dechrau cael enw drwg am ganslo datganiadau.
Mae’n dweud nad yw hynny’n “ennyn hyder” ynddo fe.