Mae Dawda Jawara, arlywydd cyntaf Gambia, wedi marw yn 95 oed.

Fe fu’n brif weinidog y wlad am 30 o flynyddoedd. Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Adama Barrow, arlywydd presennol y wlad, ei fod e’n “bencampwr heddwch rhyngwladol, cyfiawnder a hawliau dynol”.

Cafodd ei eni yn Gambia yn 1924, ac fe aeth yn ei flaen i astudio milfeddygaeth yn Glasgow cyn mentro i’r byd gwleidyddol.

Enillodd ei etholiad cyntaf yn 1960, gan ddod yn brif weinidog a phennaeth y llywodraeth yn ddiweddarach.

Daeth Gambia yn wlad annibynnol o dan ei arweiniad yn 1965, gan ennill statws gweriniaeth yn 1970, ac fe ddaeth e’n arlywydd arni.

Fe fu wrth y llyw tan 1994, pan ildiodd ei rym i Yahya Jammeh mewn gwrthryfel.

Fe fu’n byw yng ngwledydd Prydain tan 2002, cyn dychwelyd i Gambia.