Mae asiantaeth gofnodi swyddogol yn Brasil yn adrodd bod nifer y tanau gwyllt yn y wlad wedi cynyddu eleni.
Ac mae Arlywydd Brasil, Jair Bolsonaro wedi awgrymu y gallai’r cynnydd hwn fod o ganlyniad i ymgais gan sefydliadau dielw (NGOs) i ddifwyno ei enw da.
Mae ffigyrau swyddogol yn datgelu bod 74,155 achos o danau gwyllt wedi bod yn Brasil eleni, sy’n gynnydd o 84% oddi ar yr un cyfnod y llynedd.
Y taleithiau sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf yw Mato Grosso, Para ac Amazonas, meddai arbenigwyr, gyda 41.7% o’r holl danau yn digwydd yn ardal yr Amazon.
Drwgdybio
Mae Jair Bolsonaro wedi cythruddo rhai amgylcheddwyr, sefydliadau dielw ac arbenigwyr yn Brasil yn sgil ei bolisïau sy’n hyrwyddo datblygu economaidd mewn ardaloedd coediog yn yr Amazon.
Mae’r Arlywydd, sydd wedi bygwth gadael Cytundeb Paris yn y gorffennol, wedi ymosod droeon ar y garfan hon o bobol, gan ei fod yn eu hystyried yn rhwystrau yn ei ymgais i ddatblygu economi’r wlad.
“Mae’n bosib – ond dw i ddim yn ei gadarnhau – bod y bobol hyn [NGOs] yn cyflawni peth gweithredoedd troseddol er mwyn rhoi enw gwael i fi ac i Lywodraeth Brasil,” meddai’r Arlywydd mewn neges ar Facebook.
“Dyna’r math o ryfel yr ydym ni yn ei wynebu.”