Mae Boris Johnson yn wynebu cyfarfod anodd gydag Arlywydd Ffrainc ym Mharis heddiw (dydd Iau, Awst 22).
Daw’r cyfarfod ychydig oriau ar ôl i Emmanuel Macron ddweud yn blwmp ac yn blaen fod ail-drafod y cytundeb Brexit “ddim yn opsiwn”.
“Mae’n rhaid i ni helpu Prydain i ddelio â’r argyfwng democrataidd mewnol hwn, ond ddylem ni ddim cael ein dal yn gaeth iddo na’i ledaenu,” meddai’r Arlywydd mewn cynhadledd i’r wasg.
Yn y cyfamser, fe gafodd Prif Weinidog Prydain gyfarfod “adeiladol” gyda Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, ddoe wedi iddi hi awgrymu y gallai arweinwyr Ewrop fod yn agored i ail-drafod y cytundeb Brexit er mwyn osgoi sefyllfa ‘dim cytundeb’.
Wrth groesawu Boris Johnson i Berlin, fe ddywedodd Angela Merkel fod gan Lywodraeth Prydain 30 diwrnod i feddwl am gynllun amgen i’r ‘backstop’ – gan sicrhau bod ffin galed yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei hosgoi.
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “fwy na hapus” gyda’r amserlen.