Mae dyn 41 oed wedi marw ar ôl cymryd rhan mewn cystadleuaeth bwyta tacos mewn gem pêl-fas yn nhalaith Califfornia.
Dywed yr awdurdodau fod Dana Hutchings wedi marw ychydig ar ôl cyrraedd Ysbyty Fresno, tua 200 i’r dwyrain o San Francisco.
Roedd y dyn o Fresno wedi bod yn bwyta tacos mewn cystadleuaeth oedd wedi’i threfnu gan dîm pel-fas Fresno Grizzles ddydd Mawrth (Awst 13). Nid oes neb yn gwybod faint o tacos yr oedd o wedi’u bwyta.
Yn ôl llygad dystion, roedd Dan Hutchings yn bwyta’n llawer cyflymach na’r ddau arall oedd yn ei erbyn, a doedd o ddim i weld yn cnoi’r bwyd cyn llyncu, a’i fod wedi cwympo tua saith munud mewn i’r gystadleuaeth, gyda’i ben yn taro’r bwrdd.