Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn dweud nad ydi hi fyny i Lywodraeth gwledydd Prydain i rwystro ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban.

Er hynny, dywed Jeremy Corbyn, nad yw’n credo ei bod hi’n syniad da, ac y byddai’n cynghori yn ei erbyn.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r is-ganghellor John McDonnell ddweud na fyddai llywodraeth yr Alban yn atal ail refferendwm yn y dyfodol.

Mae’r Blaid Lafur yn yr Alban wedi ymgyrchu yn erbyn cynnal un, gyda’i harweinydd yno, Richard Leonard, wedi dweud ynghynt y byddai’n gwrthod rhoi pŵer i Senedd Holyrood i gynnal un.

“Byddwn yn cynghori yn erbyn refferendwm arall, nid wyf yn cefnogi annibyniaeth yr Alban. Yr hyn yr wyf yn ei gefnogi yw cyfiawnder i’r Alban, ac mae hynny’n golygu buddsoddiad yn yr Alban gan lywodraeth Lafur ar gyfer gwledydd Prydain gyfan,” meddai Jeremy Corbyn.

Yn ôl John McDonnell ” nid penderfyniad y Senedd ydi ei rwystro, ond mater i’r Senedd yw gwneud pwynt ynghylch a yw’n syniad da ai peidio, ac nid wyf yn credu ei fod yn syniad da.”