Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, yn croesawu cynnig arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, i gynnal pleidlais er mwyn cael Prif Weinidog dros dro i gymryd lle Boris Johnson.

“Rwy’n croesawu’r ffaith bod Jeremy Corbyn o’r diwedd yn estyn allan, ei fod yn gwneud ymdrech o ddifrif i gydnabod bod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i atal Brexit heb fargen,” meddai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd ar raglen Today, BBC Radio 4.

“Fe fyddai dim bargen yn gymaint o drychineb. Nid yw’n fater o ddiddordeb plaid, nid yw’n fater o ddiddordeb personoliaeth, mae’n rhaid i ni nawr roi’r hyn sydd orau i’n cymunedau a’n gwledydd yng ngwledydd Prydain yn gyntaf.

“Yn hynny o beth, byddwn i’n galw ar Lafur nawr, o ddifrif, i adael i fynd. Stopiwch lynu wrth yr hyn a ddywedasoch yn y gorffennol. Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd o ddifrif. Yn hynny o beth mae angen i ni roi refferendwm yn gyntaf.”

Mae Liz Saville Roberts yn pryderu mai cynllun Llafur fyddai cynnal etholiad cyffredinol cyn ail-refferendwm ar Brexit, ac “oedi dibwrpas fyddai hynny,” meddai’r Aelod Seneddol