Roedd y pêl-droediwr Emiliano Sala wedi cael ei wenwyno gan lefelau niweidiol o garbon monocsid cyn iddo gael ei ladd mewn gwrthdrawiad awyren, ac mae’n debygol fod ei beilot wedi dioddef hefyd, meddai ymchwilwyr.
Mae profion ar gorff yr ymosodwr wedi darganfod tystiolaeth bod digon o nwy ynddi i achosi trawiad i’r galon, trawiad neu anymwybyddiaeth, meddai adroddiad dros dro gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB).
Mae’n “debygol” fod y peilot David Ibbotson wedi cael ei “effeithio i ryw raddau” hefyd, meddai’r ddogfen.
Dywedodd Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr y gall y nwy “leihau neu atal gallu peilot i hedfan awyren”.
Roedd Emiliano Sala, pêl-droediwr o’r Ariannin, I Gaerdydd o’r clwb Ffrengig Nantes am £15 miliwn ar Ionawr 18.
Fe hedfanodd David Ibbotson, 59, o Crowle, Swydd Lincoln, Emiliano Sala o Gaerdydd i Nantes y diwrnod canlynol.
Ar y daith yn ôl i Nantes ar Ionawr 21 fe blymiodd yr awyren i mor y Sianel gan ladd y ddau.
Cafodd corff Sala ei ddarganfod ar Chwefror 6 ond nid yw un David Ibbotson wedi ei leoli.