Roedd y ferch 15 oed a ddiflannodd o westy yn jyngl Malaysia, Nora Quoirin, wedi llwgu cyn marw o rwyg yn ei pherfedd, meddai heddlu lleol.

Cafodd corff y ferch o Lundain ei ddarganfod ddeg diwrnod ar ôl iddi fynd ar goll ar wyliau teuluol.

Mae canlyniadau’r archwiliad post-mortem gan ymchwilwyr yr heddlu wedi cael eu rhyddhau heddiw (dydd Iau, Awst 14) ac yn dweud nad oes arwydd o gamwedd.

Cafwyd hyd i gorff Nora Quoirin dydd Mawrth (Awst 12) wrth ymyl nant fach tua 1.6 milltir o’r gwesty yn Dusun, ble’r oedd hi ar wyliau gyda’i rhieni, ei brawd, a’i chwaer.

Dywedodd teulu’r ferch, oedd ag anghenion arbennig, bod eu “calonnau wedi torri” wrth dalu teyrnged iddi “fel y ferch fwyaf gwerthfawr.”