Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn galw ar bleidiau i’w roi yn Brif Weinidog dros dro tan ddaw etholiad cyffredinol er mwyn atal Brexit heb gytundeb o dan Boris Johnson.

Byddai’r rôl yn un “dros dro” a byr yn unig, meddai Jeremy Corbyn, ac fe fyddai’n ceisio cael estyniad i Erthygl 50 i ddileu proses ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd heibio Hydref 31.

Mae’n gofyn i arweinwyr y pleidiau yn San Steffan I gefnogi pleidlais ddihyder yn Boris Johson ar y “cyfle cyntaf pan allwn fod yn hyderus o lwyddiant.”

Fe rybuddiodd Jeremy Corbyn ddoe bod Brexit heb fargen yn dod yn fwyfwy tebygol, yn y llythyr sydd wedi cael ei anfon at bleidiau.

“Nid oes gan y Llywodraeth hon fandad ar gyfer Brexit heb fargen, ac ni ddarparodd refferendwm yr Undeb Ewropeaidd 2016 unrhyw fandad ar gyfer hynny,” mae Jeremy Corbyn yn nodi yn y llythyr.

Dywed y byddai Llafur yn ymgyrchu yn yr etholiad hwnnw dros ail refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd gyda’r opsiwn i Aros ar gael i bleidleiswyr.