Mae nifer y meirw yn dilyn tirlithriad oedd wedi difrodi dros ddwsin o dai mewn pentref yn Myanmar wedi codi i 56.
Fe ddigwyddodd ym mhentref Paung yn ne ddwyrain y wlad ddydd Gwener (Awst 9).
Aeth un o Aelodau Seneddol Myanmar yn Puang, Zaw Zaw Htoo, yno dros y penwythnos, a dywed fod tri chorff arall wedi cael eu darganfod fore heddiw (dydd Llun, Awst 12), gan godi nifer y meirw i 56.
Bu’n rhaid i drigolion ffoi o’r pentref i wersyll er mwyn dianc rhag y llifogydd yn dilyn glaw trwm.
Dywed Swyddfa’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer Cydlynu Materion Dyngarol fod llifogydd monsŵn wedi dadleoli mwy na 7,000 o bobol yr wythnos ddiwethaf yn nhalaith Mon.
Ar wahân i’r tirlithriad yn Paung, cafodd tai ac ysgolion eu difrodi, ffyrdd eu cau, a phentrefi eu boddi.
Roedd bron i 12,000 o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Burma yr wythnos ddiwethaf yn unig, gan ddod â chyfanswm y rhai mewn gwersylloedd i fwy na 38,000, meddai’r Cenhedloedd Unedig.