Mae’r ymdrech yn parhau i chwilio am ferch ifanc o Lundain sydd wedi bod ar goll yn Malaysia ers dros wythnos, gyda’i theulu nawr yn cynnig £10,000 am unrhyw wybodaeth ynglyn a’i diflaniad.
Fe ddiflannodd Nora Quoirin, 15, sydd ag anghenion arbennig, o’i hystafell wely ym mharc gwyliau Dusun yn nhalaith Negeri Sembilan fore dydd Sul (Awst 4).
Ers hynny mae 348 o bobol yn chwilio amdani a chafodd £10,000 o rodd eu rhoi i’r teulu gan fusnes di-enw o Belffast.
Mae ei mam yn dod o Ogledd Iwerddon, a’i thad o Ffrainc, ac roedd yn teithio ar basbort Gwyddelig, yn ol adroddiadau.
Mae modryb Nora Quoirin hefyd wedi creu tudalen ar-lein i godi arian, sydd wedi codi dros £90,000, ac mae ail ymgyrch gan ei hewythr wedi codi dros £14,000.
Dywed ei theulu eu bod nhw’n dal i fod yn obeithiol ar ôl i’r heddlu sy’n ymchwilio i’r achos wrthod diystyru “elfen droseddol”.
Mae’r heddlu bellach wedi dod o hyd i olion bysedd yn y bwthyn lle diflannodd Nora Quoirin, er gwaethaf dweud ynghynt nad oedd unrhyw arwyddion o ddrwgweithredu.
Mae’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) a’r Heddlu Metropolitan yn cefnogi heddlu Malaysia gyda’r achos.