Mae anturiaethwr o Hen Golwyn yn honni mai fe yw’r person cyntaf i gerdded taith o 4,000 o filltiroedd ar hyd afon Yangtze yn Tsieina.
Fe gwblhaodd Ash Dykes, 28, y daith blwyddyn o hyd heddiw (dydd Llun, Awst 12).
Yn ystod y siwrne, dywedodd iddo orfod delio a thywydd garw, llwybrau uchel, a thymheredd cyn ised â -20⁰C.
“Mae croesi’r llinell terfyn yn deimlad rhyfedd,” meddai’r cerddwr wrth wasanaeth newyddion y Press Association.
“Mae wedi cymryd dwy flynedd i gynllunio’r daith, a blwyddyn i’w chwblhau, felly mae am gymryd sbel i mi ddod i delerau â’r peth.
“Ond mae’n ennyd arbennig – mae hanes wedi cael ei greu.”
Peryglon ar y ffordd
Yn ôl yr anturiaethwr ei hun, fe wnaeth rai aelodau o’r tîm cerdded roi’r gorau iddi cyn i’r daith hyd yn oed gychwyn oherwydd bod tarddiad afon Yangtze yn anodd i ddod o hyd iddo.
Roedd yna hefyd beryg o fleiddiaid ac eirth yn ymosod arno, meddai ymhellach, cyn honni bod bleiddiaid wedi ei ddilyn am gyfnod o ddau ddiwrnod ar un adeg.
Nid dyma’r tro cyntaf i Ash Dykes ymgymryd ag antur o’r fath. Yn 2014, roedd ymhlith y cyntaf i gerdded ar draws Mongolia, gan deithio o’r gorllewin i’r dwyrain mewn 78 diwrnod.
Y fe hefyd yw’r person cyntaf, ar gofnod, i gerdded 1,600 o filltiroedd ar draws ynys Madagascar, gan ddringo wyth mynydd mewn 155 diwrnod yn 2016.
“Mewn byd lle mae pob rhan o’r ddaear wedi cael eu meddiannu gan bobol, mae yna bethau sydd dal heb gael eu gwneud,” meddai.
Yr amgylchedd – codi ymwybyddiaeth
Yn ystod ei daith yn dilyn afon Yangtze, bu Ash Dykes yn codi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd drwy nodi faint o blastig a llygredd yr oedd yn dod ar eu traws.
Bu hefyd yn tynnu sylw at brosiectau cadwriaethol gan sefydliadau fel Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd a’r Gronfa Datblygu Gwyrdd.
“Y newyddion da yw fy mod i wedi gweld cynnydd yn yr ymwybyddiaeth a’r dealltwriaeth o fewn y cymunedau, y trefi a’r dinasoedd ar hyd y ffordd,” meddai.
“Mae pobol yn ymwybodol o’r difrod sy’n cael ei achosi i’w ffynonellau dŵr, ac maen nhw bellach yn newid eu ffyrdd er gwell – mae’n ysbrydoliaeth.”