Mae tanau wedi cydio mewn coedwigoedd ar draws chwe rhanbarth yn Indonesia gan alw am filoedd o’r lluoedd diogelwch i geisio’i diffodd.

Mae 6,000 o bobol wedi cael eu galw i ddiffodd y tân sydd wedi difetha dros 30,000 sgwar hectar o goedwigoedd gan effeithio dros 23 miliwn o bobol.

Dywed llefarydd ar ran asiantaeth trychinebau Indonesia, Agus Wibowo, bod mesurau i ddiffodd y tân wedi cael eu gosod sy’n cynnwys 17 o hofrenyddion a 61 litr o ddŵr yn cael ei ollwng.

Maen nhw’n rhagweld y bydd y tanau yn gwaethygu ac yn gwneud niwed i iechyd a draws llawer o Dde-ddwyrain Asia.