Mae Banc Lloegr wedi addasu ei ragolygon am yr economi yn sgil pryderon am effaith Brexit.
Mae’r banc wedi rhybuddio y gallai Brexit heb ddêl rhoi ergyd i’r economi ac y gallai achosi cwymp pellach yng ngwerth y bunt.
Ac yn sgil y gofidion yma mae’r Pwyllgor Polisi Ariannol (MPC) wedi datgan bydd y bydd y gyfradd llog yn aros yn 0.75%.
Hefyd mae’r MPC yn disgwyl i’r economi dyfu gan 1.3% eleni, sydd yn gwymp o’r twf 1.5% yr oedden nhw wedi ei ddarogan ym mis Mai.
Mae’r corff yn cymryd yn ganiataol y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb, ac mae eu rhagolygon yn adlewyrchu hynny.
Pe bai Brexit heb ddêl yn cael ei wireddu, mi allai’r economi tyfu hyd yn oed yn arafach na’r disgwyl.