Mae trigolion yng ngogledd Ceredigion wedi galw am ddiddymu cynllun ail-wylltio enfawr ar gyfer rhannau o’r canolbarth, gydag un ffermwr yn cyhuddo mudiadau cadwriaethol o “ddweud celwydd” yn lleol.

Daeth tua 300 o bobol, yn ffermwyr, pysgotwyr a gwleidyddion lleol, ynghyd mewn cyfarfod gan Undeb Amaethwyr Cymru ym mhentref Talybont neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 31) er mwyn lleisio eu pryderon ynghylch y cynllun arfaethedig.

Bwriad cynllun ‘O’r Mynydd i’r Môr’ yw defnyddio 10,000 hectar o ucheldir a 28,400 o fôr mewn rhannau o ogledd Ceredigion a Dyffryn Dyfi ym Mhowys er mwyn cefnogi rhywogaethau cynhenid o goed, planhigion a bywyd gwyllt.

Yr elusen Rewilding Britain sy’n bennaf gyfrifol am y cynllun, ac mae’n cael ei gefnogi gan nifer o fudiadau cadwriaethol lleol, gan gynnwys Coed Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Cadwraeth Forol.

“Mae rhywun yn dweud celwydd”

Yn ôl Dafydd Morris-Jones, ffermwr defaid o ardal Ysbyty Cynfyn ger Ponterwyd, fe bleidleisiwyd “yn unfrydol” yn erbyn y cynllun, sydd wedi derbyn cyllid gwerth £3.4m, yn ystod y cyfarfod neithiwr.

Mae’n honni bod yr hyn sy’n cael ei ddweud yn lleol yn “dra gwahanol” i’r fersiwn sy’n cael ei chyfleu i gefnogwyr ac arianwyr Rewilding Britain.

“Pan ydych chi’n darllen diffiniad Rewilding Britain o beth yw ‘Rewilding’, beth yw e ond diffiniad llwyr gwrth-amaethyddol,” meddai Dafydd Morris-Jones wrth golwg360.

“Dyw e ddim yn ddiffiniad sy’n cynnwys prosesau dynol oddi fewn i’r dirwedd…

“Maen nhw’n trio ei werthu fe yn lleol yn fwy dof na beth ariannwyd.”

Bygythiad i’r economi leol

Mae Dafydd Morris-Jones yn pryderu y gallai’r cynllun arwain at lai o ddefaid yn pori ar fynyddoedd Pumlumon a Chwm Dyfi.

Bydd hynny yn ei dro yn bygwth y marchnadoedd da byw ym Mhontarfynach ac Aberystwyth, meddai.

Ac er nad oes gorfodaeth ar ffermwyr na pherchnogion tir i fod yn rhan o’r cynllun, mae’r ffermwr yn rhag-weld tiroedd “yn diflannu” o dwyn eu trwynau.

“Bydd dim angen i’r cynllun ei hunan brynu’r tir na gorfodi ffermwyr ar y tir, oherwydd bydd unigolion a mudiadau yn meddwl eu bod nhw’n gwneud yn dda, ac sydd wedi llyncu’r celwydd, yn medru ein gwthio ni mas jyst drwy gynnig mwy o arian na ni,” meddai.

Mae golwg360 wedi gofyn i Rewilding Britain am ymateb.