Mae gwobrau gwerin Prydeinig a fydd yn cael eu rhannu yn yr hydref, yn gyfle i ddod â “síns gwerin ynghyd”, meddai’r Cymro sydd yn y ras am y Radio 2 Folk Awards 2019.
Mae Gwilym Bowen Rhys yn teimlo bod cerddoriaeth werin yng Nghymru mewn cyflwr “gwell nag y mae wedi bod” gyda “lot mwy o bobol yn recordio stwff” ar hyn o bryd.
Ond mae’n dweud bod pethau “dal ddim yn grêt” ac mae’n credu bod yna le i wella o ran uno “dwy sin gwerin” y wlad.
“Mae gynnoch chi bobol sy’n canu’n Gymraeg fatha fi,” meddai wrth golwg360, “ac wedyn mae gynnoch chi’r sin werin arall yma o folk festivals – hipïaidd a Saesneg.
“Dydi pobol Cymraeg ddim yn uniaethu o gwbwl â hynna. Ond y gobaith ydi dod â’r ddau fyd yna at ei gilydd. A dyna beth sy’n dda am y gwobrau yma. Dydi iaith ddim yn rhwystr. Mae pobol yn fodlon gwrando ar unrhyw beth, os ydyn nhw’n dallt y geiriau neu beidio.”
Y gwobrau
Bydd seremoni wobrwyo’r Radio 2 Folk Awards yn cael ei chynnal ym Manceinion ar Hydref 16, ac ymhlith y perfformwyr bydd y delynores o Gymru, Catrin Finch.
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi cael ei enwebu am wobr Canwr Gwerin y Flwyddyn, ac yn galw hynny’n “sioc” ac yn “bleser”.
Ymhlith y Cymry eraill sydd wedi cael eu henwebu mae’r triawd o Rosllannerchrugog, The Trials of Cato, a’r band Vri.
Mae albwm The Trials of Cato, Hide and Hair, wedi’i enwebu a