Mae un o awyrennau byddin yr Unol Daleithiau wedi cael damwain ym mharc cenedlaethol Death Valley yn Califfornia, gan anafu saith o bobol.

Fe blymiodd yr awyren i’r ddaear gan greu cwmwl du yn yr awyr. Fe ddecheuodd gorsaf awyr y fyddin yn Lemoore, chwilio am beilot y Super Hornet F/A-18, ond nid oes golwg ohono hyd yn hyn.

Fe gafodd ambiwlansys eu hanfon i safle’r ddamwain ger golygfan Father Crowley, lle mae pobol sy’n hoff o awyrennau yn gwylio peilotiaid milwrol yn gwibio’n sydyn drwy’r ddyffryn creigiog sy’n cael ei alw’n ‘Star Wars Canyon’.

Dywed sianel deledu ABC-TV fod y bobol a gafodd eu hanafu wedi derbyn triniaeth am fân losgiadau a briwiau sydd wedi’u hachosi gan ddarnau o’r awyren yn sbydu i bob cyfeiriad yn dilyn y ffrwydro.

Mae byddin yr Unol Daleithiau wedi bod yn defnyddio’r dyffryn i ymarfer peilotiaid ers yr Ail Ryfel Byd.