Mae nifer yr achosion o wrth-semitiaeth yng ngwledydd Prydain wedi cyrraedd record yn hanner cyntaf 2019.

Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Ddiogelwch Cymunedol – sy’n monitro gwrth-semitiaeth ymhlith y gymuned Iddewig – mae 892 o achosion wedi eu cofnodi, sy’n gynnydd o 10% ar 810 oedd erbyn hyn y llynedd.

Ymhlith yr achosion mae graffiti ar dŷ goroeswyr Holocost yn Lerpwl; 85 o ymosodiadau/sy’n cynnwys dyrnu, cicio, neu daflu eitemau at bobol.

Mae dros draean o’r achosion wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda phrif weithredwr yr Ymddiriedolaeth yn dweud fod y broblem “yn lledaenu ar draws gwlad ac ar-lein… mae’n adlewyrchu’r rhaniadau dwfn yn ein cymunedau, ac yn achosi pryder yn y gymuned Iddewig”.

Yn ôl yr adroddiad, sydd wedi bod yn cofnodi achosion gwrth-semitig ers 1984, dyw hi ddim yn glir os yw’r cynnydd o ganlyniad i well trefn o gofnodi achosion.